kowydd i forfydd
1 Dwynwen deigr darian degwch
2 da i gwyr o gor fflamgor fflwch
3 dy ddelw avr di ddolvriaw
4 digion drvain ddynion draw
5 dyn awilio gloyw dro glan
6 yn dy gor indeg arian
7 [837] Ni does glefyd na bryd brwyn
8 a el vnddo o landdwyn
9 dy laesblaid yw dy lwysblwyf
10 dolvrvs o falvs wyf
11 y fron hon gwreiddion gordderch
12 y sydd yn vn hwydd o serch
13 hirwayw ofail gofeiliaint
14 herwydd i gwn hwn ywr haint
15 oni chaf o byddaf byw
16 forfydd llyna oferfyw
17 gwna fi yn iach wiw iach wawd
18 om anwychder am nychdawd
19 kymvsg llatteiddrwydd flwyddyn
20 a rradav duw rrod ar dyn
21 nid rraid ddelw evraid ddilyth
22 yt ofn pechawd fethylgynawd fyth
23 nid adwyna da i dangnef
24 duw a wnaeth nid ai onef
25 nith wyl mvrsen yleni
26 yn hvsding y nyngani
27 ni rydd eiddig ddig ddygynbwyll
28 warffon yt wyr iffwyll
29 tyn oth obyr taw ni thybir
30 wrthyd wyrf gymlegyd hir
31 o landdwyn dir gynired
32 i gwm ygro gem o gred
33 duw nithomeddawdd hawdd hedd
34 down iaith aml dyn nithomedd
35 di ame weddie waith
36 duw ith eilw dv i thalaith
37 [838] Delit tuw dy lettyfwr
38 del o gof dwylaw y gwr
39 traws oedd ir neb ai treissiai
40 tra ddel im ol trwy ddail mai
41 dwynwen pei parvd vnwaith
42 dan hirddydd mai a hirddydd maith
43 dawn ir bardd da wen i bych
44 dwynwen ni doeddych anwych
45 dangos oth radav downgoeth
46 na dwyd fvrssen ddwynwen ddoeth
47 er awnaethosd yn ddownbwys
48 o benyd ybyd ai bwys
49 er y krefydd ffydd ffyddriw
50 a wnaethosd tra fvosd fyw
51 er y reirian leianaeth
52 a gwyrdawd y kynawd kaeth
53 er enaid os rraid yrrawg
54 brychan yrth breichiav nerthawg
55 eiriol er dy greol gred
56 ir em wyrf roi ym wared
Dauidd ap glim ai kant